Bethan Jenkins
Mae Plaid Cymru wedi lansio deiseb yn galw am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cyhoeddus.

Mae’r blaid yn dadlau mai dyma yw dymuniad pobl Cymru ac y byddai’n rhoi hwb i’r sector dwristiaeth.

Mae 15 mlynedd wedi mynd heibio ers i Aelodau Cynulliad bleidleisio o blaid gwneud Mawrth 1  yn wyliau cyhoeddus a naw mlynedd ers i arolwg barn ddarganfod bod 87% o bobl Cymru yn cefnogi’r syniad, ond does dim wedi digwydd ers hynny, meddai Plaid Cymru.

Mae Plaid Cymru yn credu bod rhaid i’r grym dros wyliau gael ei ddatganoli cyn gynted â phosib er mwyn i’r Cynulliad gael gwneud penderfyniad ar y mater erbyn 2016.

‘Penderfyniad pobl Cymru’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant, Bethan Jenkins:

“Mi fyddai gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cyhoeddus yn cyd-fynd gydag ewyllys pobl Cymru ac yn rhoi hwb i’r sector dwristiaeth.

“Rydw i’n galw ar bawb sy’n cytuno â ni ar y mater hwn i arwyddo ein deiseb er mwyn gyrru neges i San Steffan mai penderfyniad i bobl Cymru ddylai hwn fod.”