Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol ar y cwricwlwm yng Nghymru heddiw y maen nhw’n gobeithio fydd yn codi safonau a chyflwyno newidiadau radical o ran sut a beth y bydd disgyblion yn ei ddysgu am y degawdau i ddod.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan yr Athro Graham Donaldson gan edrych ar addysg yng Nghymru’r holl ffordd o’r Cyfnod Sylfaen presennol hyd at Gyfnod Allweddol 4.
Disgrifiodd y Llywodraeth ganfyddiadau’r adroddiad fel rhai “radical a phellgyrhaeddol” gyda gweledigaeth ar gyfer yr hyn sy’n ddisgwyliedig yn y dyfodol ar gyfer pobl ifanc lwyddiannus sy’n dod i ben â’u cyfnod addysg statudol.
Mae’r adroddiad yn cynnwys pedwar prif amcan, yn ogystal ag awgrym y dylai sgiliau digidol fod yn gyfrifoldeb traws-gwricwlaidd ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd.
Pedwar amcan
Yn yr adroddiad mae’r Athro Graham Donaldson yn amlinellu pedwar amcan ar ba fath o ddisgyblion ddylai’r cwricwlwm addysg gyfrannu at ei greu.
- Dysgwyr uchelgeisiol a galluog sydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- Cyfranwyr creadigol mentrus, sydd yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Dinasyddion addysgedig egwyddorol yng Nghymru a’r byd
- Unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Awgrym yr adroddiad hefyd yw y dylai cymhwysedd digidol fod yn gyfrifoldeb trawsgwricwlaidd yn yr un modd â llythrennedd a rhifedd.
‘Uchelgeisiol’
“Mae’r Athro Donaldson wedi creu gweledigaeth ysgogol, gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae cwmpas ac ystod y newidiadau y mae’n eu rhagweld yn gwbl sylfaenol a phellgyrhaeddol a bydd angen amser i’w cyflwyno a’u cyflawni,” meddai’r Gweinidog Addysg Huw Lewis.
“Yr hyn rydyn ni yn ei wybod, fodd bynnag, yw y bydd cyfraniad ymarferwyr addysgol a’r gymuned ehangach yn hanfodol wrth greu’r cwricwlwm newydd hwn ac y bydd yn rhaid i’r cyfraniad hwnnw fod yn gyson ac yn rhagweithiol.
“Mae’r Athro Donaldson a finne’n ymrwymedig i sicrhau bod cwricwlwm newydd Cymru yn un sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a’i fod wedi’i greu gennym ni oll.”
‘Safonau uwch’
Dywedodd yr Athro Graham Donaldson: “Teitl yr adroddiad hwn yw ‘Dyfodol Llwyddiannus’ am ei fod yn sôn am bwysigrwydd hanfodol ysgolion i lwyddiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hefyd yn sôn am wella’r dysgu a sicrhau safonau uwch.
“Mae sylw’n cael ei roi i wella’r dysgu am ei fod yn tynnu ar dystiolaeth o Gymru a gwledydd eraill am bwysigrwydd canolbwyntio ar yr hyn sydd wir o bwys mewn cwricwlwm modern ar gyfer ysgolion.
“Mae’n rhoi sylw i safonau uwch oherwydd mae’n gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgu ac yn cynnig ffyrdd y gall ysgolion ac athrawon helpu pobl ifanc i fodloni’r disgwyliadau hynny ac, yn aml, ragori ar y disgwyliadau hynny.”
‘Gweledigaeth’
Ychwanegodd: “Wrth lunio’r adroddiad hwn rydym wedi clywed barn penaethiaid, athrawon, plant a rhieni ac rydyn ni wedi ymwneud yn helaeth â sbectrwm eang o brofiad a barn pobl yng Nghymru, gan gynnwys cyflogwyr. Roedd y negeseuon a ddaeth i’r amlwg yn glir ac yn gyson a nod y cynigion sy’n deillio o’r adolygiad yw eu gwireddu.
“Mae fy nghynigion yn adeiladu ar yr amryw gryfderau sy’n bodoli yn y system addysg yng Nghymru a’r nod yw ceisio creu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a chyfrwng i wireddu’r weledigaeth honno.”
Undebau’n croesawu
Cafodd yr adroddiad ei groesawu gan undebau athrawon.
Dywedodd cyfarwyddwr undeb ATL Cymru, Dr Philip Dixon ei fod yn “drylwyr iawn” a bod digon ynddo i “gnoi cil” yn ei gylch.
“Mae e wedi mynd i galon nifer o’r materion pigog ynghylch y cwricwlwm”, meddai, gan ychwanegu bod yr argymhellion wedi’u croesawu gan y byd addysg.
Croesawu’r adroddiad wnaeth undeb NAHT hefyd, a dywedodd y Cyfarwyddwr dros dro, Dr Chris Howard ei fod yn “adroddiad sydd â’r potensial i newid y gêm”.
Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Aled Roberts ei fod yn “adroddiad manwl sydd wedi’i ystyried yn ofalus” a’i fod yn “rhoi digon i wleidyddion a’r proffesiwn dysgu i’w ystyried”.
Rhybuddiodd y gallai “achosi embaras i Lywodraeth Lafur Cymru gan ei fod yn argymell newid systemau megis categoreiddio ysgolion sydd wedi cael eu newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig”.
Ychwanegodd fod nifer o gwestiynau i’w hateb cyn i’r adroddiad gael ei weithredu.